10 Ebrill  2015

 

Annwyl Gyfeillion,

                              Ymgynghoriad: Cyfoeth Naturiol Cymru   

             

                                Cyfeiriaf at llythyr Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. 

                                Dyddiad y llythyr yw “27 February 2015”.  Gwelais ond y fersiwn Saesneg ar eich safle we Cymraeg.  Credaf eich bod wedi anwybyddu Polisi Iaith y Cynulliad trwy ddodi’r fersiwn Saesneg yn unig yna.

                               Ysgrifennaf fel unigolyn. Mae fy sylwadau  yn seiliedig ar brofiad fel swyddog cynllunio efo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chynllunwr Trefol Siartredig. 

1.     Cyfoeth Naturiol Cymru a cheisiadau cynllunio

                              Mae’n rhaid i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru ar rhai ceisiadau cynllunio. Cyfeirir Rheol 61(3), y Rheoliadau Cynefinoedd, 2010. Bydd rhai ohonynt yn ymgynghori ar geisiadau cynllunio rhag ofn bod angen dan Rheol 61(3). Bydd rhai ohonynt hefyd yn ymgynghori lle bydd effeithiau posibl ar ystlumod neu fwyd gwyllt arall o statws Ewropeaidd.

                              Bydd awdurdod lleol da yn cyflogi ecolegydd. Hoffwn weld cytundeb rhwng awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn osgoi arbenigwr o’r dau gorff ymweld â’r un safle i asesu’r un cais cynllunio.  Dylai’r cytundeb hefyd ceisio sicrhau ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi gwasanaeth israddol fel cosb i awdurdodau sydd yn cyflogi ecolegydd da. Hefyd, ni ddylai ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i gais cynllunio danseilio sylwadau ecolegydd awdurdod cynllunio lleol o safon – yn enwedig lle mae’r swyddog llywodraeth lleol wedi ymweld â’r safle, a’r swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru ddim. Efallai, buasai Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru (POSW), yn medru drafftio cytundeb efo Cyfoeth Naturiol Cymru.

2.     Cyfoeth Naturiol Cymru a Pholisi Cynllunio Llywodraeth Cymru

                               Mae paragraff 5.2.7, “Nodyn Cyngor Technegol 5, Cynllunio a Chadwraeth Natur” (Llywodraeth Cymru, 2009), yn annog camau gorfodaeth gan awdurdodau cynllunio lle mae datblygiad yn brifo safle cadwraeth natur statudol. Mae difrodi safle cadwraeth natur statudol yn drosedd.  Serch hynny, nid oes unrhyw sôn am Gyfoeth Naturiol Cymru ym mharagraff 5.2.7. Credaf fod erlyniad neu “injunction” neu’r dau gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn llawer mwy effeithiol na gorfodaeth cynllunio.

                               Os oes rhybudd gorfodaeth dan y Deddfau Cynllunio, bydd hawl i apelio.  Ni ddylai bod yn anodd cadw apêl gorfodaeth ar y gweill am dros flwyddyn.  Ni ddylai bod yn anodd perswadio llys i ohirio unrhyw erlyniad tan y penderfyniad apêl.

                              Heb dyst Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd apêl gorfodaeth yn debygol o fod yn llwyddiannus. Heb erlyniad, sut bydd tyst Gyfoeth Naturiol Cymru yn ymateb i honiad “If this site is worth conserving, you would have prosecuted my client”.

                               Credaf fod Rhybudd Gorfodaeth yn haeddu ystyriaeth wedi erlyniad er mwyn sicrhau gwelliannau ar y safle.

 

Yn gywir,

 

                 John Bowers BA (Hons), MRTPI, MBA,